Air Quality Ozone 2021

Mae mapiau llygredd cefndir ar gydraniad 1x1 km yn cael eu modelu bob blwyddyn o dan gontract Modelu Ansawdd Aer Amgylchynol (MAAQ) Defra. Defnyddir y mapiau hyn i ddarparu cefnogaeth polisi i Defra ac i gyflawni rhwymedigaethau y DU o ran adrodd i Ewrop. Maen nhw hefyd ar gael i'r cyhoedd ar gyfer ceisiadau ymchwil eraill megis astudiaethau prifysgol, epidemioleg ac ymchwil iechyd cyhoeddus, ac astudiaethau natur a chadwraeth. Caiff y modelau'n eu diweddaru a'u gwella'n barhaus ac felly mae'r fethodoleg yn aml yn newid bob blwyddyn. Mae'r adroddiad methodoleg diweddaraf ar gyfer 2020, ac mae ar gael ar wefan UK-AIR: Adroddiad (PDF). Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol o'r newidiadau hyn o flwyddyn i flwyddyn wrth gymharu allbynnau model rhwng blynyddoedd. Mae'r rhan fwyaf o'r allbynnau model yn gyfartaledd blynyddol, a gynrychiolir gan μg m-3. Mae crynodiadau CO yn cael eu cynrychioli gan mg m-3. Darperir unedau a gwybodaeth benodol am y gwahanol fetrigau yn y tabl cryno isod.   Mae data ar gael i'w lawrlwytho mewn fformat csv yn uniongyrchol o UK Air Information Resource © Hawlfraint y Goron 2021 Defra drwy uk-air.defra.gov.uk, trwyddedig o dan y Drwydded Llywodraeth Agored.

DataMapWales

DataMapWales serves as a source for public sector data in Wales, providing a shared data platform to members of the public and public authorities.

https://datamap.gov.wales/
Map Layer